Y Gwdihŵ a’r Gath
I
Aeth y gwdihŵ a’r gath am dro dros y mor
Mewn cwch gwyrdd pysen del.
Roedd ganddynt nhw mêl a digon o arian
Wedi ei lapio mewn papur pum punt.
Edrychodd y gwdihŵ lan ar y sêr
A chanodd i’r gitar fach
“O gath hyfryd, o gath fy nghariad
O gath mor hyfryd rwyt ti,
Yr wyt ti,
Yr wyt ti,
O gath mor hyfryd rwyt ti.”
II
Medd y gath wrth y gwdihŵ “O aderyn gwych,
Mor hyfryd yw dy gân
O gad i ni briodi, yn rhy hir i ni wedi oedi
Ond beth wnawn ni am fodrwy?”
Hwylion nhw bant am flwyddyn a dydd
I’r tir ble mae’r coeden-bong yn tyfu
Ac yna mewn coedwig safodd mochyn bach
A modrwy ar ddiwedd ei drwyn,
Ei drwyn,
Ei drwyn,
A modrwy ar ddiwedd ei drwyn.
III
“Annwyl fochyn, wyt ti’n fodlon i werthi dyfodrwy am swllt?”
“Gwnaf” medd a mochyn.
Aethon nhw â hi i fwrdd a phriodon nhw drannoeth
Gan y twrci sy’n byw ar y bryn
Ciniawon ar frywfwyd a sleisiau o cwins
Bwytawsant â llwy ddwy finiog
A law yn llaw ar ymyl y traeth
Dawnsiasant yng ngoleini y lleuadd,
Y lleuadd,
Y lleuadd,
Dawnsiasant yng ngoleu y lleuadd.
Translated by Rhona Tremaine, Llandeilo